Charles Kennedy
Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy, wedi marw’n sydyn yn ei gartref, meddai ei deulu.

Roedd Charles Kennedy wedi bod yn Aelod Seneddol am 32 o flynyddoedd ond fe gollodd ei sedd yn etholaeth Ross, Skye a Lochaber i’r SNP fis diwethaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i’w gartref yn Fort William ddoe ar ôl iddyn nhw gael eu hysbysu gan y gwasanaeth ambiwlans.

Nid yw achos ei farwolaeth yn hysbys ar hyn o bryd ond mae’n debyg nad yw’r heddlu yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

‘Talentog’

Mewn datganiad dywedodd ei deulu eu bod yn cyhoeddi ei farwolaeth “gyda thristwch mawr” a’u bod wedi cael “sioc enbyd” yn sgil ei farwolaeth sydyn.

“Roedd Charles yn ddyn arbennig, yn wleidydd talentog ac yn dad cariadus i’w fab ifanc… Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ac fe fyddwn yn rhyddhau datganiad pellach pan fydd trefniadau ei angladd wedi cael eu gwneud,” meddai’r teulu mewn datganiad.

Roedd Charles Kennedy wedi bod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 1999 a mis Ionawr 2006. Fe gamodd o’r swydd ar ôl cyfaddef bod ganddo broblem gydag alcohol.

Fe ddechreuodd ei yrfa gyda phlaid yr SDP, gan ennill sedd Ross, Cromarty a Skye ym 1983 pan oedd yn 24 oed. Fe oedd yr AS ieuengaf ym Mhrydain ar y pryd.

Fe gymrodd yr awenau gan Paddy Ashdown yn 1999 a bu’n hynod feirniadol o’r rhyfel yn Irac yn 2003. Yn yr etholiad cyffredinol yn 2005 fe enillodd ei blaid 62 sedd – eu canlyniadau gorau mewn etholiad cyffredinol ar y pryd.

Ond fisoedd yn unig ar ôl hynny roedd na sibrydion ei fod yn gaeth i alcohol a bu’n rhaid iddo gyfaddef ei fod yn cael triniaeth am y broblem, a’i fod yn cynnal cystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid.

Roedd wedi dweud ei fod eisiau parhau yn ei swydd ond cafodd ei orfodi i gamu o’r swydd ar ol i aelodau blaenllaw o’r blaid fygwth ymddiswyddo.

‘Colli cawr’

Mewn teyrnged iddo heddiw dywedodd Nick Clegg fod Charles Kennedy yn “un o wleidyddion mwyaf talentog ei genhedlaeth” gan son am ei hiwmor a’i garedigrwydd “a oedd wedi cyffwrdd pobl y tu hwnt i’r byd gwleidyddol.”

Mae teyrngedau hefyd wedi cael eu rhoi gan yr Arglwydd Ashdown ar Twitter ac fe ddywedodd Tim Farron AS, sy’n ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid, ei fod wedi “torri ei galon” o glywed am farwolaeth Charles Kennedy gan ychwanegu: “Rydym wedi colli cawr heddiw.”

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei fod wedi  “tristau’n ofnadwy” o glywed am farwolaeth “gwleidydd talentog sydd wedi marw’n rhy ifanc.”

Dywedodd cyn ohebydd seneddol y BBC Guto Harri ar y Post Cyntaf y bore ma bod ganddo “hiwmor a dawn dweud ryfeddol.”

“Bydd yn cael ei gofio’n bennaf fel gwleidydd o egwyddor ac argyhoeddiad,” ychwanegodd.

‘Ysbrydoledig’ – Kirsty Williams

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams ar Twitter: “Wedi torri fy nghalon o glywed  y newyddion am farwolaeth Charles Kennedy, dyn talentog, ysbrydoledig hyfryd, ffraeth, egwyddorol a dewr. Yn meddwl am ei deulu.”

Dywedodd cyn AS y Democratiaid Rhyddfrydol Lembit Opik: “Roedd Charles Kennedy yn unigryw – enaid tyner wnaeth fyth wir ymdopi â phwysau ei yrfa garw.”

Wrth ymateb i’r newydd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Newyddion trist iawn am Charles Kennedy. Ofnadwy o drist dros ei deulu. Mae fy meddyliau i gyda nhw.”

Ychwanegodd AS Llafur Casnewydd, Paul Flynn: “Etifeddiaeth Charles Kennedy yw ei lwyddiant yn pontio rhaniadau gwleidyddol plaid ddinistriol gyda gonestrwydd, egwyddor a gwedduster i ennill consensws.”