Nigel Farage
Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi dweud bod y blaid “100% yn unedig” ar drothwy ymgyrch tros refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Daw sylwadau Farage yn dilyn adroddiadau bod y blaid wedi rhwygo yn dilyn ymgyrch etholiadol siomedig ddechrau’r mis.

Ymddiswyddodd Farage fel arweinydd yn dilyn yr etholiad cyffredinol, ond fe wrthododd y blaid dderbyn ei ymddiswyddiad.

Bellach, mae Farage yn mynnu mai pleidiau eraill sy’n “rhanedig iawn”.

‘Unedig’

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Yr hyn sydd wedi digwydd o fewn UKIP, ers yr etholiad, yn dilyn awyrgylch gwres ffwrn y swyddfa ymgyrchu, yw bod un neu ddau beth anffodus wedi cael eu dweud a’u gwneud gan nifer fach iawn o bobol.

“Ond fe ddyweda’ i wrthych ble mae hyn yn gadael UKIP wrth fynd i mewn i’r ymgyrch refferendwm yma, yn wahanol i’r pleidiau eraill – yn unedig, 100% yn unedig.

“Ers 20 mlynedd, rydym wedi brwydro’n galed i godi mater yr Undeb Ewropeaidd i fod yn bwnc llosg.

“Fe ddywedwyd wrthym mai ni oedd y dynion hurt o’r bryniau am hyd yn oed ystyried a oedd dyfodol i Brydain y tu allan i undeb wleidyddol, a bellach mae gyda ni refferendwm ar y mater.

“Rydym yn unedig; mae’r pleidiau eraill yn rhanedig iawn.”

Ddoe, ymddiswyddodd Patrick O’Flynn fel llefarydd economaidd UKIP, gan ymddiheuro am alw Farage yn “frathog, yn groendenau ac yn ymosodol”.

Gwnaeth O’Flynn y sylwadau yn ystod cyfweliad gyda phapur newydd, a’r sylwadau hynny oedd yn bennaf gyfrifol am gynnig Farage i ymddiswyddo’r arweinyddiaeth.