Cafodd bron i £14.4 miliwn o gyfraniadau ariannol eu rhoi gan y cyhoedd i’r pum plaid wleidyddol fwyaf yn ystod cyfnod yr etholiad cyffredinol, yn ôl ffigyrau swyddogol.

O gychwyn y cyfnod ymgyrchu ar 30 Mawrth hyd at 7 Mai, cafodd y Ceidwadwyr roddion ariannol cyhoeddus gwerth £6,100,588.

Fe dderbyniodd y blaid Lafur £5,957,862; UKIP £1,684,728; y Democratiaid Rhyddfrydol £601,000, y Blaid Werdd £18,400 a’r SNP £10,000.

Mae golwg360 wedi gofyn faint o arian dderbyniodd Plaid Cymru.

Yn y dyddiau cyn i bobol fwrw pleidlais, rhoddwyd £230,000 i’r Democratiaid Rhyddfrydol gan gwmni Brompton Capital a £60,000 i UKIP gan y datblygwr tai Ko Barclay.