Ched Evans
Ni fydd camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn cyflwynydd radio a wnaeth sylwadau “sarhaus” ynglŷn ag achos y pêl-droediwr Ched Evans sydd wedi’i gael yn euog o dreisio.

Mewn trafodaeth fyw ar BBC Radio Norfolk ynglŷn ag a ddylai’r pêl-droediwr gael dychwelyd i chwarae, dywedodd Nick Conrad y dylai merched “gadw eu nicyrs ymlaen”.

Cafodd Ched Evans ei ryddhau’r llynedd ar ôl treulio dwy flynedd a hanner yn y carchar wedi iddo ei gael yn euog o dreisio dynes mewn gwesty ger y Rhyl yn 2011.

Mae’n parhau i fynnu ei fod yn ddieuog, ond mae ei ymdrechion i ailafael yn ei yrfa bêl-droed wedi wynebu gwrthwynebiad cryf.

Ymddiheuriad

Mae Nick Conrad a’r BBC bellach wedi ymddiheuro am y sylwadau a wnaeth y cyflwynydd, gafodd eu disgrifio fel rhai “sarhaus” gan gorff rheoleiddio Ofcom.

Cafwyd 46 o gwynion gan wrandawyr ar ôl i Nick Conrad ddweud bod angen i ferched “fod yn fwy ymwybodol o ddyheadau rhywiol dynion” a’i bod yn “anodd iawn i ddynion ddweud na pan maen nhw wedi cael eu cyffroi”.

Dywedodd hefyd bod angen i ferched “ddeall pan mae dyn yn cael arwyddion penodol fe fydd e’n awyddus i weithredu ar hynny ac os nad ydych chi eisiau anfon yr arwyddion anghywir mae’n well, mae’n siŵr, i gadw eich nicyrs ymlaen a pheidio â mynd i’r gwely gydag o”.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom fod y sylwadau yn “sarhaus a ddim wedi cael eu cyfiawnhau gan gyd-destun y rhaglen”, gan nodi fodd bynnag bod y cyflwynydd wedi ymddiheuro a bod grŵp ymgyrchu yn erbyn trais yn erbyn merched hefyd wedi cael cyfle i gyfrannu eu safbwynt.

Ceisio apelio

Ers cael ei ryddhau o’r carchar y llynedd mae Ched Evans wedi ceisio ymuno â’i gyn-glwb Sheffield United, ac yna Oldham.

Ond roedd gwrthwynebiad chwyrn i’r posibiliad yn y ddau achos, gydag ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai treisiwr fod mewn rôl mor gyhoeddus, a rhai o noddwyr y clybiau hefyd yn bygwth tynnu nôl.

Cafodd Ched Evans ei ganfod yn euog o dreisio dynes 19 oed yn 2011 wedi i’r rheithgor benderfynu ei bod hi’n rhy feddw i gydsynio i gael rhyw gydag o.

Ond mae’r pêl-droediwr wedi parhau i fynnu ei fod yn ddieuog, ac wedi cyflwyno apêl yn erbyn y dyfarniad i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

Mae disgwyl dyfarniad ganddyn nhw yn yr wythnosau nesaf ynglŷn ag a oes digon o sail i’r achos fynd nôl i’r llys i gael ei ailystyried.