Harriet Harman
Mae disgwyl i Harriet Harman ddweud heddiw y bydd papurau pleidleisio i ddewis arweinydd newydd Llafur yn cael eu cyhoeddi gan y Gymdeithas Diwygiad Etholiadol fel na fydd undebau yn gallu dylanwadu ar eu haelodau.

Mae disgwyl i fanylion y broses gael eu hamlinellu gan arweinydd dros dro’r blaid, Harriet Harman, mewn araith ym mhencadlys y Blaid Lafur yn Llundain heddiw.

Fe ymddiswyddodd Ed Miliband fel arweinydd yn dilyn canlyniadau trychinebus y blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Yn y cyfamser mae undeb Unite yn ystyried dod a’u cysylltiad hanesyddol gyda Llafur i ben.

Mae pennaeth yr undeb Len McCluskey wedi dweud ei fod yn hanfodol bod yr arweinydd nesaf yn “llais y bobl gyffredin.”