David Cameron a'i wraig Samantha yn cyrraedd Rhif 10 ddoe
Fe fydd David Cameron yn treulio’r penwythnos yn Downing Street yn trefnu ei Gabinet newydd ar ôl i’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif clir yn yr etholiad cyffredinol.

Ddoe, o fewn oriau o gyrraedd nôl yn Rhif 10, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi ail-benodi George Osborne yn  Ganghellor, Theresa May yn Ysgrifennydd Cartref, Philip Hammond yn Ysgrifennydd Tramor, a Michael Fallon yn Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mae disgwyl iddo aros tan ddydd Llun cyn cwblhau ei Gabinet a phenderfynu ar swyddi gweinidogol eraill dros yr wythnos i ddod.

Mae gan y Prif Weinidog fwy o le ar gyfer ASau Ceidwadol yn ei Gabinet newydd gan nad oes yn rhaid iddo wneud lle ar gyfer pump AS y Democratiaid Rhyddfrydol y tro hwn.

Mae George Osborne hefyd wedi cael y teitl Prif Ysgrifennydd Gwladol, sef rôl Ddirprwy Brif Weinidog. Cafodd y teitl ei roi i William Hague cyn hynny, a’r disgwyl yw na fydd David Cameron yn penodi Dirprwy Brif Weinidog i olynu Nick Clegg.

Mae na ddarogan hefyd y bydd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn cael dyrchafiad.

Toriadau

Fe lwyddodd y Ceidwadwyr i ennill 331 o seddi gan sicrhau mwyafrif o 12 yn Nhŷ’r Cyffredin.

Bydd yn rhaid iddo lunio Araith y Frenhines ar gyfer Agoriad Swyddogol y Senedd ar 27 Mai, ac mae’n debyg o gynnwys mesurau i fwrw mlaen gyda phecyn llymder o £30 biliwn, gan gynnwys toriadau lles o £12 biliwn.

Mae disgwyl i David Cameron hefyd fwrw mlaen gyda chynlluniau i ail-drafod aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer refferendwm yn 2017.

Yn ogystal bydd yn mynd ati ddatganoli mwy o rym i wledydd Prydain gan gynnwys Cymru. Yn dilyn llwyddiant ysgubol yr SNP yn yr Alban mae Nicola Sturgeon wedi rhybuddio David Cameron y bydd yn rhaid iddo wrando ar lais yr Alban ac i beidio a disgwyl “busnes yn ol yr arfer” yn San Steffan.