Nicola Sturgeon - ei phlaid ymhell ar y blaen
Mae arolwg noson-gynt yn dal i ddangos bod plaid genedlaethol yr SNP yn dal i fod ymhell ar y blaen yn yr Alban.

Pe bai’n dod yn wir yn y polau piniwn, fe fyddai’n rhoi ymhell tros 40 o’r 59 seddi i blaid Nicola Sturgeon.

Mae’r pôl yn awgrymu fod lefel y gefnogaeth i Lafur wedi haneru bron ac wedi cwympo mwy na hynny wedyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

  • Roedd y pôl yn gosod yr SNP ar 45.9% o’r bleidlais – o gymharu ag 19.9% yn 2010.
  • Er y gallai’r bleidlais amrywio o sedd i sedd ac er fod rhai o’r pleidiau eraill yn galw am bleidleisio tactegol, roedd Llafur wedi ennill 41 o seddi y tro diwetha’ gyda llai o gefnogaeth.
  • Mae’r arolwg yn awgrymu ei bod hi i lawr i 25.8% o 42% y tro diwetha’ a’r Democratiaid Cymdeithasol wedi syrthio o 18.9% i 7.1%.
  • Y disgwyl yw y byddan nhw’n colli 10 o seddi, gan orffen gydag 1.

Ond mae trefnydd etholiadau’r SNP Angus Robertson wedi dweud nad ydyn nhw’n cymryd “dim yn ganiataol”.