Mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi cyhoeddi colled bellach yn eu helw blynyddol – ddiwrnod ar ôl i Sainsbury’s wedi gwneud ei golled gyntaf mewn degawd.
Blwyddyn o “newid heb ei debyg” sydd ar fai am y cwymp mewn elw, meddai’r archfarchnadoedd wrth gyhoeddi eu ffigyrau.
Roedd incwm Morrisons wedi cwympo o 2.9% yn ystod y chwarter diwetha’, gan ddilyn cwymp o bron 8% yn yr un cyfnod y llynedd.
Arwyddion gobeithiol
Mae elw Morrison’s wedi syrthio £792 miliwn ond, yn ôl y Prif Weithredwr newydd, mae yna arwyddion gobeithiol.
Fe ddywedodd David Potts, a ddaeth i’r swydd saith wythnos yn ôl, ei fod yn gweld cwmni oedd yn awyddus i wella.
Ddoe fe ddaeth y newyddion fod Sainsbury’s wedi gweld gwerth £72 miliwn yn llai o werthiant yn y flwyddyn cyn 14 Mawrth a hynny, gyda chwymp yng ngwerth eu hadeiladau, wedi arwain at golledion mawr.
Aldi a Lidl ar i fyny
Daw’r cyhoeddiad bythefnos ar ôl i Tesco gyhoeddi colled o £6.4 biliwn, gydag arwyddion bod elw pedair prif archfarchnad gwledydd Prydain yn cael eu taro’n galed gan archfarchnadoedd rhad fel Aldi a Lild.
Mae Morrissons wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri 720 o swyddi yn ei bencadlys yn Bradford.
.