Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod miliwn o bobol bellach yn defnyddio banciau bwyd.
Mae’r ffigurau wedi codi o ganlyniad i gyflogau isel yn gorfodi pobol i geisio cymorth ychwanegol i gael bwyd, meddai elusen.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, roedd bron i 400,000 o blant ymhlith y rhai oedd wedi derbyn cymorth y banciau bwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ond mae’r darlun yn dal yn anghyflawn, gan fod cynlluniau tebyg yn cael eu rheoli gan eglwysi ac elusennau bychain yn annibynnol o’r banciau bwyd swyddogol.
Cafodd y banc bwyd cyntaf ei gynnal yn Salisbury yn 2000.
Bu cynnydd o 19% yn y nifer oedd wedi ceisio cymorth gan y banciau bwyd yng ngwledydd Prydain dros y flwyddyn ddiwethaf.
‘Cywilydd’
Tra bod trafferthion ynghylch budd-daliadau yw’r prif reswm am y cynnydd, fe fu cynnydd hefyd yn nifer y bobol sy’n defnyddio’r banciau oherwydd eu bod nhw’n derbyn cyflogau isel.
Dywedodd cyfarwyddwr banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, Adrian Curtis: “Er gwaethaf arwyddion calonogol o adfywiad economaidd, mae newyn yn parhau i effeithio nifer cynyddol o ddynion, menywod a phlant yn y DU heddiw.
“Mae’n anodd bod yn sicr o raddau llawn y broblem gan nad yw ffigurau Ymddiriedolaeth Trussell yn cynnwys pobol sy’n derbyn cymorth gan elusennau bwyd eraill neu’r rhai sy’n teimlo cywilydd o orfod ceisio cymorth.”
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady y dylid teimlo “cywilydd” fod y niferoedd mor uchel.