John Major
Bydd y cyn Brif Weinidog, John Major, yn ymuno â’r ymgyrchu etholiadol heddiw gan rybuddio y byddai Llywodraeth Lafur leiafrifol sy’n dibynnu ar gefnogaeth yr SNP yn arwain at “anhrefn”.

Gyda 16 diwrnod i fynd tan yr etholiad, bydd John Major yn dweud y byddai Llywodraeth ar y cyd rhwng Llafur a’r SNP yn arwain at adferiad economaidd “gwan ac ansefydlog”.

Bydd hefyd yn defnyddio’r araith yng nghanolbarth Lloegr i greu darlun o lywodraeth Lafur fydd yn cael ei lwgrwobrwyo’n ddyddiol gan y cenedlaetholwyr a fydd yn rhy ddylanwadol.

‘Achub y GIG’

Bydd Ed Miliband, ar y llaw arall, yn rhoi addewid i achub y Gwasanaeth Iechyd (GIG) petai’n ennill yr etholiad a bydd yn cyhoeddi cynllun heddiw a fyddai’n cynyddu cyllid ac yn mynd i’r afael ag “argyfwng” staffio.

Bydd yn tynnu sylw at y ffaith bod un rhan o dair o Ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr wedi bod o dan  ymchwiliad y llynedd dros bryderon am lefelau staffio.

Mae cynlluniau Ed Miliband yn cynnwys codi cyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd drwy gyflwyno’r dreth plasty a chodi toll tybaco.

Ail gartrefi

Perchnogion ail gartrefi fydd dan y lach gan y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw. Mae disgwyl i’r blaid  amlinellu cynlluniau i ddyblu cyfradd y dreth gyngor i berchnogion ail gartref mewn mannau gwledig fel bod pobl leol ddim yn cael eu prisio allan o’r farchnad eiddo.

Bydd y cynllun yn caniatáu i awdurdodau lleol godi’r dreth gyngor mewn ymdrech i atal cyfraddau uchel o berchnogaeth ail gartrefi mewn rhai ardaloedd.

Mae’r mesur yn rhan o “siarter cefn gwlad” sy’n cael ei lansio gan y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Nick Clegg yn honni y byddai ei blaid yn creu 300,000 o swyddi newydd mewn ardaloedd gwledig os fydd y blaid mewn llywodraeth ar ôl 7 Mai.