Michael Gove
Ni fydd unrhyw gytundeb rhwng y Torïaid ac Ukip ar ôl yr etholiad, yn ôl prif chwip y Ceidwadwyr, Michael Gove.

Roedd yn ymateb i awgrymiadau gan Nigel Farage y gellid taro bargen rhwng y ddwy blaid petai’r Ceidwadwyr yn cytuno i refferendwm ar unwaith ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

“Does gen i ddim eisiau dweud dim byd diraddiol am Nigel Farage nac am bobl yn Ukip, ond does gen i ddim awydd na diddordeb taro bargen gyda neb,” meddai.

Yn ogystal â gwrthod cytundeb ffurfiol, roedd hefyd yn gwrthod y syniad o gytundebau fesul pleidlais.

“Fydd dim cytundebau o’r fath,” meddai. “I ddechrau, dw i ddim yn meddwl y bydd llawer o ASau Ukip – os bydd rhai o gwbl – ar ôl yr etholiad.

“Alla i ddim dylanwadu sut mae pleidiau eraill yn dewis pleidleisio. Yn y senedd hon, mae’r ddau AS Ukip wedi pleidleisio weithiau gyda’r Ceidwadwyr ac weithiau yn erbyn.

“Ond dydyn ni ddim yn mynd i drafodaethau gyda nhw. Fe fydda’ i’n gwrtais gydag unrhyw aelod seneddol o unrhyw blaid ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, ac os bydd arnyn nhw eisiau pleidleisio dros bolisïau Ceidwadol, yna gwych. Ond fyddwn ni ddim yn mynd i’r gwely gyda nhw, na.”