Mae Llafur, yr SNP ac Ukip wedi bod yn collfarnu addewid y Torïaid y byddan nhw’n rhoi £8 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd dros y pum mlynedd nesaf os cân nhw eu hethol.

“Allwch chi ddim ariannu’r Gwasanaeth Iechyd os nad ydych yn gwybod o ble mae’r arian yn dod ac mae pobl Prydain yn gwybod hynny,” meddai arweinydd Llafur, Ed Miliband.

“Wnewch chi ddim byd ond difrodi’r Gwasanaeth Iechyd os ydych chi’n cynllunio toriadau anferthol mewn gwario cyhoeddus flwyddyn ar ôl blwyddyn, fel mae’r Torïaid yn bwriadu’i wneud.”

Gwrthododd Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, Liz Kendall, â chadarnhau y byddai Llafur yn ymrwymo i wario’r un faint, er ei bod yn dweud y byddai’n gwario “faint bynnag sydd ei angen”.

Newid polisi gwario

Dywedodd arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, fod angen newid cyfeiriad llwyr ar wario cyhoeddus, ac y byddai’r SNP yn defnyddio’u grym yn y senedd i bwyso am  £24 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd ledled Prydain.

Taflu dŵr oer dros addewidion y Prif Weinidog a wnaeth arweinydd Ukip, Nigel Farage, hefyd.

“Mae Mr Cameron yn gwybod bod yn rhaid iddo wneud yr addewidion hyn oherwydd mae’n cynllunio ar gyfer ymchwydd anferthol mewn mewnfudo i’r wlad hon dros y pum mlynedd nesaf,” meddai. “O dan ei gynlluniau ef, bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn troi’n Wasanaeth Iechyd Rhyngwladol.”