Geraint Thomas (o wefan Team Sky)
Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi cael ei enwi fel un o’r beicwyr i’w gwylio yn ras fawr Paris-Roubaix yfory.

Mae’r beiciwr 28 oed wedi cael gwanwyn hynod lwyddiannus, wrth ennill y ras E3 Harelbeke, dod yn ail yn Milan-San Remo, trydydd yn Gent-Wevelgem, ac yn 14eg yn y Tour of Flanders y penwythnos diwethaf.

Ac yntau eisoes yn berchen dwy fedal aur Olympaidd am gystadlaethau tîm, mae sylwebwyr o’r farn fod ganddo obaith am fuddugoliaeth fwyaf ei yrfa yfory.

Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod Syr Bradley Wiggins, enillydd y Tour de France 2012, hefyd â’i lygaid ar fuddugoliaeth yfory yn ei ras olaf dros Team Sky.

Y Paris-Roubaix, sy’n 253.5 ciliomedr o hyd trwy gadfeysydd gogledd Ffrainc, yw un o’r campau undydd caletaf ym myd rasio beics.