Ed Miliband
Mae disgwyl i Ed Miliband gyhoeddi heddiw y byddai’r Blaid Lafur, pe baen nhw’n dod i rym, yn dileu statws arbennig sy’n galluogi unigolion sy’n byw y tu allan i’r DU i osgoi talu trethi ar incwm byd-eang.

Mae’r rheol hynafol yn berthnasol i oddeutu 116,000 o bobol, ac fe fydd Miliband yn dweud heddiw ei fod yn troi gwledydd Prydain yn “hafan drethi i ychydig o bobol”, ac nad oes modd ei gyfiawnhau bellach.

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi rhybuddio y gallai’r rheol arwain at golli unigolion dawnus ac arian.

Ar raglen Newsnight y BBC, dywedodd Prif Chwip y Ceidwadwyr, Michael Gove nad oes sicrwydd y byddai’r cynllun yn codi rhagor o arian i’r Trysorlys, ac y gallai arwain at bobol yn gadael gwledydd Prydain.

Yn y cyfamser, fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn cyhoeddi cynlluniau heddiw a fydd yn galluogi plant ysgol gynradd 11 oed sy’n methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig yn Saesneg a Mathemateg i ail-sefyll arholiadau yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd.

Yn ôl y Ceidwadwyr, fe fydd y cynllun yn sicrhau bod 100,000 o blant sy’n gadael yr ysgol gynradd heb eu bod yn gallu darllen, ysgrifennu na gwneud mathemateg yn dal i fyny yn gyflymach.

Mae disgwyl i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg ymgyrchu tros fusnesau gwyrdd yn Swydd Wiltshire, tra bydd y comedïwr Al Murray yn cyflwyno’i ymgeisyddiaeth yn ffurfiol er mwyn sefyll yn erbyn arweinydd UKIP, Nigel Farage yn etholaeth De Thanet yn Swydd Gaint.