Charles Kennedy
Mae cyn-arweinydd plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy, yn cymryd hoe o ymgyrchu gogyfer â’r Etholiad Cyffredinol, yn dilyn marwolaeth ei dad.

Yn ôl neges ar wefan gymdeithasol Twitter: “Oherwydd marwolaeth tad Charles, Ian Kennedy, fe fydd Charles yn cymryd ychydig ddyddiau i ffwrdd o’r ymgyrchu. Diolch i chi am ddeall.”

Mae Charles Kennedy yn amddiffyn sedd â mwyafrif o 13,000 yn Ross, Skye a Lochaber yn Ucheldir yr Alban.