Nick Clegg - rhybudd
Mae eu partner yn y glymblaid yn Llundain wedi rhybuddio bod llam y Ceidwadwyr tua’r dde yn fygythiad “go iawn” i sicrwydd economaidd gwledydd Prydain.

Wrth i fyd busnes fynd â’r sylw yn ystod trydydd diwrnod yr ymgyrch etholiad, fe rybuddiodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nic Clegg, fod y Ceidwadwyr yn bwriadu symud yn “wyllt” tuia’r dde am resymau ideolegol.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymateb i lythyr gan fwy na 100 o benaethiaid busnes yn canmol polisïau’r Ceidwadwyr.

Roedd yn croesawu eu clod i waith y llywodraeth glymblaid ond yn dweud eu bod yn gwneud camgymeriad wrth feddwl y byddai’r Ceidwadwyr yn sicrhau sefydlogrwydd yn y dyfodol.

Osborne ‘wedi dweud’

“Mae George Osborne [y Canghellor] wedi body n hollol blaen, dyw e ddim wedi ceisio cuddio’r peth fod y Ceidwadwyr eisiau llamu i gyfeiriad ideolegol, asgell dde,” meddai Nick Clegg.

Ond mae gan Nick Clegg broblemau eraill – mae pôl piniwn newydd yn awgrymu y gallai golli ei sedd ei hun yn Sheffield Hallam.