Alicante
Mae cyrff cwpwl priod o wledydd Prydain wedi’u darganfod yn eu cartref yn nhref Alicante yn Sbaen.

Mae’n ymddangos bod Peter a Jean Tarsey, 77 oed, wedi cael eu saethu’n farw.

Dywedodd heddlu Sbaen fod ffrindiau wedi galw yn eu cartref ym mhentref Xalo brynhawn ddoe, gan nad oedden nhw wedi’u gweld ers rhai dyddiau.

Roedd drws eu cartref ar agor, ond doedd dim awgrym o ladrad, meddai’r heddlu.

Fe fu’r cwpwl yn byw yn Sbaen ers 18 o flynyddoedd.

Mae’r heddlu’n aros am ganlyniadau archwiliad post-mortem ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Mae’r dref yn ne-ddwyrain y wlad yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n barod i gynnig cymorth conswlaidd i’r teulu.