f
Nigel Farage, arweinydd Ukip (llun: PA)
Mae arweinydd Ukip, Nigel Farage, wedi addo y bydd ei blaid yn ymladd ymgyrch gadarnhaol ar gyfer yr etholiad cyfffredinol.

Dywedodd fod pethau’n argoeli’n dda iawn i’w blaid gan fod yr etholwyr yn diflasu ar ymgyrchu negyddol gan Lafur a’r Torïaid.

“Maen nhw bellach yn gweld nad oes gan y pleidiau Llafur a Cheidwadol fawr ddim i’w ddweud heblaw ‘dydyn nhw’n ofnadwy?’ am ei gilydd,” meddai.

“Yr hyn sydd gennym yw dwy blaid fawr sy’n dweud wrth etholwyr Prydain, gyda’u ffrindiau yn y diwydiant papurau newydd, mai dewis rhwng dau yw yr etholiad yma, ac nad oes neb arall yn cyfrif.

“Dyw’r neges yma ddim yn cael ei derbyn gan etholwyr.

“Dim ond mis o’r ymgyrch etholiadol sydd wedi mynd ac mae hanner pobl y wlad wedi diflasu i farwolaeth yn barod, felly dw i’n meddwl bod cyfle da iawn i gerdded trwy ganol hyn a dod i mewn gyda neges gadarnhaol.”