Achosion o'r ffliw ar fai am y cynnydd yn nifer y marwolaethau
Mae cyfradd y marwolaethau ar gyfer Cymru a Lloegr dros 30% yn uwch na’r arfer ar gyfer y cyfnod yma o’r flwyddyn, yn ôl ffigyrau newydd.

Bu farw 28,800 o bobol yn y pythefnos cyn 28 Ionawr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) – sydd 32% yn uwch na’r ffigwr arferol o 21,859 o bobol fu farw dros y pum mlynedd diwethaf.

Awgrymodd yr ONS mai achosion o’r ffliw wedi’r tywydd oer oedd wrth wraidd y cynnydd.

Daw wedi i ymchwil ddangos bod marwolaethau ymysg pobol dros 65 oed wedi bod yn uwch na’r disgwyl am y chwe wythnos diwethaf, hyd yn oed o ystyried yr adeg o’r flwyddyn.