Llefarydd Ty'r Cyffredin, John Bercow, yn derbyn canlyniad y bleidlais
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio dros ganiatáu proses i greu babanod IVF gyda DNA gan dri pherson.
Yn dilyn y bleidlais hanesyddol heddiw ynglŷn â’r diwygiad dadleuol i’r Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008, y DU fydd y wlad gyntaf yn y byd i gyfreithloni’r dechneg.
Y bwriad yw ceisio atal afiechydon genynnol difrifol trwy ddefnyddio DNA tri o bobl yn hytrach na dau. Pleidleisiodd 382 o ASau o blaid y dechneg, a 128 yn erbyn.
Mewn dadl 90 munud cyn y bleidlais, roedd y Gweinidog Iechyd, Jane Ellison wedi gwrthod awgrymiadau y bydd Prydain yn caniatáu “addasu genetig” drwy ganiatáu i fabanod IVF gael eu creu gyda DNA gan dri pherson.
Dywedodd Jane Ellison AS y bydd y broses yn cynnig yr “unig obaith” i fenywod sydd â chlefyd genynnol i gael “plant iach, sydd â geneteg sy’n perthyn”.
Roedd y dechneg wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol gyda llefarydd Llafur dros iechyd y cyhoedd, Luciana Berger, yn dweud y gallai’r broses atal clefydau a fyddai fel arall yn effeithio cenedlaethau i ddod.
Fe wnaeth hi hefyd ddiystyru’r awgrym fod y broses wedi cael ei rhuthro, gan ddweud y byddai’r gwyddonwyr, sydd wedi bod yn gweithio ar yr ymchwil am 15 mlynedd, yn anghytuno.
Ond roedd peth anghytuno gyda’r AS Ceidwadol Fiona Bruce yn dweud fod y mater yn croesi’r “linell goch” na ddylai Aelodau Seneddol ei groesi, gan amlygu ei gwrthwynebiad ar egwyddor ac ar sail diogelwch.
Meddai’r Ceidwadwr Syr Edward Leigh y gallai cymeradwyo’r dechneg baratoi’r ffordd ar gyfer rhagor o “addasiadau” i fabanod a dywedodd ei fod yn gwrthwynebu’r broses.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley ar y Post Cyntaf y bore ‘ma bod y broses yn rhoi rhywfaint o obaith o oresgyn problemau sy’n wynebu pobl sydd â chyflwr geneteg ac yn osgoi poen iddyn nhw.
Bu farw dau o feibion Dafydd Wigley o ganlyniad i gyflwr geneteg.