Mae cwmni hedfan mwyaf Ewrop, Ryanair, wedi ennill yr hawl i rwystro neu osod prisiau eu teithiau ar wefannau sy’n cymharu prisiau.
Fe ddaeth dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop ynghanol ffrae rhwng y cwmni Gwyddelig Ryanair a chwmni PR Aviation o’r Iseldiroedd am ymarfer o’r enw ‘screen scraping’ – lle mae modd trosglwyddo data o wefannau targed.
Mae Ryanair wedi croesawu’r dyfarniad ac wedi yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio eu gwefan swyddogol i brynu teithiau yn y dyfodol.