Teithwyr yn cyrraedd maes awyr Heathrow
Mae amheuon wedi codi ynglŷn â chynllun sgrinio am yr haint Ebola sydd wedi dechrau ym maes awyr mwyaf Prydain, Heathrow yn Llundain heddiw.

Fe gafodd pobol oedd yn teithio o orllewin Affrica eu holi ar ôl cyrraedd Llundain, er mwy ceisio darganfod os oedden nhw wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un oedd wedi’u heintio. Yn ogystal, fe gafodd tymheredd y teithwyr ei fesur.

Ond mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cyfaddef nad oes cynllun hirdymor mewn lle i ddelio hefo unrhyw un sydd wedi ymweld â’r gwledydd lle mae Ebola wedi lledaenu ac a fyddai’n gwrthod ateb cwestiynau neu adael i swyddogion fesur eu tymheredd.

Nid oedd cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Dr Paul Cosford, chwaith yn fodlon cadarnhau os oedd y profion o fewn y cynllun sgrinio yn orfodol i deithwyr o orllewin Affrica ond dywedodd ei fod yn “disgwyl y bydd pawb yn cydweithio.”

Y cynllun yn ‘jôc’

Mae honiadau fod un o’r bobol gyntaf i gyrraedd Heathrow o orllewin Affrica, Sorious Samura, 51, wedi galw’r cynllun yn “jôc” am nad oedd swyddogion y maes awyr wedi sylweddoli ei fod wedi teithio o Liberia trwy Frwsel.

Roedd wedi gorfod rhoi’r wybodaeth iddyn nhw.

Mae bwriad i ymestyn y cynllun i feysydd awyr Gatwick a gorsaf drên Eurostar St Pancras dros yr wythnos nesaf.]

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd nad ydyn nhw’n gweithredu cynllun sgrinio ar hyn o bryd ond eu bod yn cydweithio gyda’r sefydliadau iechyd priodol rhag ofn bod angen gwneud hynny.

Mae 8,914 o achosion o Ebola wedi cael eu cofnodi yng ngorllewin Affrica hyd yn hyn, sy’n cynnwys 4,447 o bobl sydd wedi marw.