Fydd mewnfudwyr o Ewrop ddim ond yn medru hawlio budd-daliadau am dri mis, heblaw bod ganddynt siawns dda o ganfod gwaith. Dyna brif neges cynllun newydd gan David Cameron i dorri’n ôl ar nifer y mewnfudwyr sy’n dod i wledydd Prydain.

Yn ôl y Prif Weinidog, fe fyddai’r newid yn anfon “neges glir” i fewnfudwyr na allan nhw gael pethau am ddim ym Mhrydain, ac y byddai’n taclo “atyniad magnetig” y system fudd-daliadau.

Mae mewnfudwyr o Ewrop eisoes yn gorfod aros tri mis nes eu bod nhw’n medru hawlio budd-daliadau, ar ôl i’r drefn gael ei newid ym mis Ionawr.

Ar ôl hynny fyddan nhw ddim ond yn medru hawlio budd-daliadau am fwy na thri mis os oes ganddyn nhw “siawns dda o gael swydd”.

O dan y drefn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, roedd ganddyn nhw’r hawl i hawlio budd-daliadau diweithdra am hyd at chwe mis.

Ac fe danlinellodd Cameron fod trwyddedau gyrru 2,000 o fewnfudwyr anghyfreithlon wedi cael eu dileu ers i’w lywodraeth gyflwyno pwerau newydd fis diwethaf.

“Mae hyn ynglŷn ag adeiladu Prydain wahanol – gwlad sydd ddim yn sofft, ond rhywle ble’r ydych chi’n chwarae’ch rhan; cenedl ble mae’r rheiny sy’n gweithio yn dod ymlaen,” ysgrifennodd Cameron yn y Daily Telegraph.

“… Rydyn ni’n adeiladu economi sy’n rhoi gwir gyfleoedd i bobl ifanc; system addysg sy’n eu hannog i wneud eu gorau; system les sy’n annog gwaith; a system fewnfudo sy’n rhoi Prydain yn gyntaf.”

Dim digon llym, medd Llafur

Ond mae’r blaid Lafur wedi beirniadu cyhoeddiad Cameron – gan fynnu fod y Llywodraeth yn methu pan mae’n dod at fewnfudo a bod Llafur wedi galw am reolau llymach 18 mis yn ôl.

“Mae angen llai o siarad gan y Prif Weinidog ar fewnfudo a mwy o weithredu,” meddai Llefarydd Materion Cartref Llafur, Yvette Cooper.

“Mae bron yn flwyddyn a hanner ers i Lafur alw am gyfyngiadau budd-daliadau i fewnfudwyr newydd.

“Y tu ôl i’r rhethreg mae darlun gwir y Llywodraeth ar fewnfudo’n un o fethiant, gyda ffigyrau mudo’n codi er gwaethaf addewid David Cameron i’w ostwng i’r degau o filoedd.”