Mae cwmni cyhoeddi Trinity Mirror wedi rhoi £4m i’r naill ochr er mwyn delio ag achosion sifil allai gael eu dwyn yn deillio o gyhuddiadau o hacio ffonau symudol.

Fe ddaeth y ffaith i’r fei yn adroddiad hanner blwyddyn y grwp, a gyhoeddwyd heddiw.

Dyma’r tro cynta’ i’r cwmni, sy’n wynebu 17 o honiadau, nodi swm penodol ar gyfer delio â’r materion hyn. Mae’r £4m yn ychwanegol i’r “ychydig filiynau” a oedd eisoes wedi ei glustondi at yr un diben.

Fe ddaw’r cyhoeddiad hefyd wrth i Trinity Mirror, yn ei adroddiad, ddweud iddo wneud yn well na’r disgwyl yn ystod yr hanner blwyddyn hyd at Fehefin 29, a’i fod ar y trywydd i dalu difidend i’w gyfranddalwyr yn 2014 – y cynta’ er 2008.

Mewn nodyn cyfreithiol, mae’r cwmni’n nodi ei fod yn parhau i gydweithio gyda’r heddlu mewn perthynas ag Ymgyrch Elveden – yr ymchwiliad i honiadau o daliadau anaddas i swyddogion cyhoeddus. Maen nhw hefyd yn cydweithio ag Ymgyrch Golding, meddai’r nodyn – yr ymchwiliad i achosion honedig o hacio ffonau symudol.