Roedd chwyddiant wedi cynyddu i 1.9% ym mis Mehefin ond mae’n parhau i fod o dan darged Banc Lloegr o 2%, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.

Mae’r cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, yn uwch na’r disgwyl ac wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers dechrau’r flwyddyn.

Fe allai hyn roi pwysau ar Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog sydd wedi aros yn 0.5% am fwy na phum mlynedd.

Mae lefel chwyddiant wedi bod yn is o ganlyniad i brisiau mwy cystadleuol mewn archfarchnadoedd a arweiniodd at ostyngiad mewn prisiau bwyd a diodydd meddal ym mis Mai.

Mae’r ffigurau heddiw hefyd yn dangos bod Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) wedi codi o 2.4% i 2.6%.