Mae’r cyn-Ysgrifennydd Cartref , yr Arglwydd Brittan wedi dweud ei fod e wedi gofyn i swyddogion yn San Steffan i “graffu’n fanwl” ar ddogfennau oedd yn cynnwys gwybodaeth am bedoffilia honedig yn yr 1980au, ond na chafodd y mater ei godi gydag e fyth ar ôl hynny.
Gwnaeth yr Arglwydd Brittan ddatganiad ar ôl i’r Aelod Seneddol Llafur, Simon Danczuk fynnu y dylai rannu gwybodaeth am y ddogfen a gafodd ei pharatoi gan y cyn-Aelod Seneddol, Geoffrey Dickens.
Roedd y ddogfen yn cynnwys gwybodaeth am bedoffiliaid oedd yn gweithredu fel rhan o rwydwaith yn ardal San Steffan, yn ôl Danczuk.
Mewn datganiad heddiw, dywedodd yr Arglwydd Brittan fod Dickens wedi rhoi “pentwr sylweddol o bapurau” iddo.
Dywedodd wrth Dickens y byddai’r “papurau’n cael eu craffu gan y Swyddfa Gartref” ac y byddai’n “gweithredu fel bo angen”.
Ychwanegodd ei fod e wedi gofyn i’w swyddogion roi gwybod iddo pe bai angen i’r Swyddfa Gartref gymryd camau pellach, neu drosglwyddo’r wybodaeth i adran arall o fewn y Llywodraeth pe bai’n fwy priodol gwneud hynny.
Meddai: “Dyma’r drefn arferol ar gyfer trin deunydd a gafodd ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Cartref.
“Dydw i ddim yn cofio bod swyddogion y Swyddfa Gartref na Mr Dickens nac unrhyw un arall wedi cysylltu eto â fi am y materion hyn.”