Mae David Cameron wedi galw am weithredu brys ar ôl rhybuddio bod peryg i driniaeth feddygol ddirywio i sut yr oedd yn “yr oesoedd canol” os nad oes cenhedlaeth newydd o driniaethau gwrthfiotig  yn cael eu datblygu.

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog alw ar grŵp o arbenigwyr rhyngwladol i lunio adolygiad i geisio darganfod pam bod cyn lleied o wrthfiotigau wedi cael eu datblygu yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd David Cameron fod y ffordd mae heintiau wedi datblygu i wrthsefyll gwrthfiotigau yn “fygythiad real a phryderus iawn” a all arwain at ddyfodol lle bydd anafiadau ac anhwylderau, y gellir eu trin ar hyn o bryd, yn  lladd.

“Mae arbenigwyr yn dweud fod hyn yn un o’r problemau iechyd mwyaf difrifol yn y byd,” meddai.

“Ac maen rywbeth sy’n digwydd ar hyn o bryd. Os na fyddwn ni’n llwyddo, rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol lle nad yw gwrthfiotigau yn gweithio ac fe fyddwn ni’n byw mewn oes feddygol debyg i’r oesoedd canol.

“Allwn ni ddim caniatáu i hynny ddigwydd ac rydw i eisiau gweld ymateb rhyngwladol cryfach a mwy trefnus.”

Yr economegydd Jim O’Neill fydd yn arwain y panel o arbenigwyr a fydd yn gosod cynlluniau ar gyfer datblygu gwrthfiotigau newydd. Fe fydd y grŵp hefyd yn ystyried sut y gall gwledydd tlawd reoli triniaethau gwrthfiotig presennol yn well.

Rhyngwladol

Fe fu’r Prif Weinidog yn trafod y broblem gydag Arlywydd America, Barack Obama, a Changhellor yr  Almaen, Angela Merkel, yn ystod cynhadledd y G7 ym Mrwsel y mis diwethaf.

Y Wellcome Trust fydd yn talu’r gost gychwynnol o £500,000 i gychwyn y gwaith.