Garry Glitter
Mae Gary Glitter wedi ymddangos yn y llys heddiw i wynebu cyhuddiadau o gyfres o ymosodiadau rhyw ar ddwy ferch.

Mae’r cyn seren bop, 70, wnaeth ymddangos yn y llys o dan ei enw iawn Paul Gadd, wedi cael ei gyhuddo o wyth trosedd rhyw yn erbyn merched o dan 16 oed yn y 1970au a’r 1980au.

Mae’r cyhuddiadau yn cynnwys  honiad ei fod wedi rhoi alcohol i un o’r merched er mwyn cael rhyw gyda hi.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o gael rhyw gyda merch dan oed a dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Yn Llys Ynadon Westminster heddiw, fe wnaeth Gary Glitter gadarnhau ei enw, oedran a chyfeiriad yn y gwrandawiad byr.

Cafodd yr  achos ei ohirio hyd nes y bydd gwrandawiad yn Llys y Goron Southwark ar 3 Gorffennaf.