Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad ar ôl i ddyn yn ei 20au gael ei ddarganfod yn farw ym Mro Morgannwg.

Dywedodd llefarydd bod swyddogion wedi cael eu galw i Ffordd Argae yn y Bari.

Nid yw’r heddlu’n credu bod amgylchiadau’r farwolaeth yn amheus ar hyn o bryd, ac mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.