Mike Edgerton/PAWire
Dywed rheolwr tîm pêl-droed Lloegr ei fod yn parhau yn ffyddiog y bydd y Saeson yn cyrraedd ail rownd Cwpan y Byd yn Brasil ar ôl colli ei gêm gyntaf 2 – 1 i’r Eidal neithiwr.
Bydd rhaid i Loegr guro Uruguay a Costa Rica i barhau yn y gystadleuaeth.
Fe wnaeth Uruguay golli 3- 1 yn erbyn Costa Rica dydd Sadwrn diwethaf a hynny yn groes i’r disgwyl gan mai nhw ydi pencampwyr De America.
“Y ffaith ydi hyd yn oed os yda chi’n colli’r gêm gyntaf mae’n bur debyg y bydd yn rhaid i chi ennill y ddwy nesaf” meddai Roy Hodgson.
Claudio Marchisio gafodd y gôl gyntaf i’r Eidal cyn i Daniel Sturridge sgorio i Loegr. Fe wnaeth Mario Balotelli sgorio’r ail i’r Eidal.
Bydd Lloegr yn chwarae yn erbyn Uruguay yn Sao Paulo dydd Iau.
Anaf a chwyn
Ffysiotherapydd LLoegr, Gary Lewin, oedd yn unig un gafodd ei anafu yn ystod y gêm.
Torrodd ei ffêr wrth neidio a syrthio ar botel o ddŵr tra’n dathlu gôl Lloegr ac fe fydd yn dod adref o Brasil yn ystod y dyddiau nesaf
Mae rheolwr yr Eidal, Cesare Prandelli wedi beirniadu’r trefnwyr yn hallt am beidio caniatau torriadau er mwyn i’r chwaraewyr gael diod yn ystod y gêm gafodd ei chwarae mewn gwrês o dros 30 gradd.
Mewn gêmau eraill, fe wnaeth Y Traeth Eifori guro Japan a Columbia guro Gwlad Groeg.