Jamie Roberts - ei ddeg munud yn y gell gosb yn allweddol
De Affrica 38 Cymru 16

Fe gafodd Cymru eu chwalu yn y gêm brawf gyntaf yn erbyn De Affrica.

Dim ond cais yn y chwarter ola’ gan Alex Cuthbert a roddodd fymryn o barchusrwydd i’r sgôr ar 38-16.

Roedd pethau wedi dechrau’n wael ar ôl llai na dwy funud, pan gollodd Cymru gyfle am gais . Er i Dan Biggar gael gôl adlam, fe gafodd Cymru eu cosbi gyda Brian Habana’n cael cais i’r Springboks.

Pan gafodd Jamie Roberts ei anfon i’r gell gosb, aeth pethau o ddrwg i waeth, gyda De Affrica’n cael dau gais arall a dim ond ciciau Biggar yn eu cadw i fynd.

Ar ben

Ond roedd hi’n 28-9 ar yr hanner ac wedyn yn 38-9 a gyda Chymru’n diodde’ yn y sgrymiau, roedd y gêm ar ben.

Fe ddaeth newidiadau yn yr ail hanner gyda’r mewnwr Gareth Davies yn ychwanegu cyflymdra a chreu cyfle arall am gais … ond fod Biggar wedi methu â manteisio.

Fe ddaeth cais Cuthbert ac fe lwyddodd Cymru i atal unrhyw sgorio pellach ond ddaeth addewidion Warren Gatland OBE am berfformiad da ddim yn agos at ddo dyn wir.