Fe fydd tim pel-droed merched Cymru yn wynebu Twrci yn Hwlffordd y prynhawn yma, gan wybod y byddai ennill yn gam mawr tuag at ennill eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Un tim sy’n mynd trwodd o bob grwp, a’r pedwar tim ail-orau yn chwarae’n erbyn ei gilydd er mwyn ennill eu lle.

Ar hyn o bryd, mae Cymru chwe phwynt y tu ol i Loegr – sydd ar dop y grwp – ond mae Cymru hefyd chwe phwynt ar y blaen i’r Wcrain, sy’n drydydd.