Robin van Persie yn erbyn Sbaen (Llun: AP/Christopher Ena)
Cafwyd sioc gyntaf y twrnament ar ail noson Cwpan y Byd neithiwr wrth i’r Iseldiroedd roi cweir annisgwyl i ddeiliaid y Gwpan, Sbaen, o 5-1.

Sbaen aeth ar y blaen hefyd, ar ôl i’r ymosodwr Diego Costa gael ei faglu gan Stefan de Vrij yn y cwrt cosbi, a Xabi Alonso’n rhwydo o’r smotyn ar ôl 27 munud.

Ond munud cyn yr egwyl daeth Robin Van Persie â’r sgôr yn gyfartal, gyda pheniad hyfryd dros y golwr Iker Casillas ar ôl croesiad gwefreiddiol o’r chwith gan Danny Blind.

Ac yn yr ail hanner fe rwygodd yr Iseldiroedd eu gwrthwynebwyr yn ddarnau, gydag Arjen Robben yn rhoi ei dîm ar y blaen gyntaf ar ôl rheoli pêl hir, troi a’i tharo heibio i Casillas.

Rhoddodd de Vrij yr Iseldiroedd 3-1 ar y blaen ychydig funudau wedyn, gan daro’r bêl i mewn wrth y postyn pellaf o gic rydd.

Fe ychwanegodd yr Oranje ddwy arall cyn y diwedd, gyda Van Persie’n manteisio ar gamgymeriad gan Casillas cyn i Robben rhwydo’i ail yntau, ac fe allai wedi bod yn fwy na hynny.

A chyda Grŵp B yn un cystadleuol tu hwnt mae’n bosib y bydd Sbaen yn wynebu brwydr galed i gyrraedd y rownd nesaf.

Mecsico’n lloerig â’r llumanwr

Yng ngêm gyntaf y diwrnod yng Ngrŵp A cael a chael oedd hi i Fecsico drechu Cameroon o 1-0, ac ni chawson nhw lawer o help gan y dyfarnwr na’i lumanwr chwaith.

Ddwywaith yn yr hanner cyntaf fe roddodd Giovanni dos Santos y bêl yn y rhwyd, dim ond i’r dyfarnwyr benderfynu ei fod yn camsefyll yn y ddwy achos – penderfyniadau anghywir o ail-weld ar y sgrin.

Ond roedd y Mecsicanwyr wastad yn edrych yn fwy peryglus na’u gwrthwynebwyr, ac ar ôl 70 munud fe gawson nhw’r gôl roedden nhw’n ei haeddu.

Cafodd dos Santos ergyd arall o ymyl y cwrt cosbi, ac er i’r golwr Charles Itandje arbed roedd Oribe Peralta yno gyntaf cyn yr amddiffynwyr i orffen y cyfle.

Ac felly yr arhosodd hi, gyda Mecsico’n ymuno â Brasil ar frig y grŵp, a Cameroon a Chroatia heb bwyntiau eto ar ôl un rownd o chwarae.

Chile’n gyfforddus

Yn y gêm hwyr yng Ngrŵp B roedd Chile fel petai nhw’n awyddus i efelychu camp yr Iseldiroedd a sgorio cymaint o goliau â phosibl yn erbyn Awstralia.

Llwyddon nhw i fynd 2-0 ar y blaen o fewn 14 munud, diolch i goliau gan Alexis Sanchez a Jorge Valdivia, gydag amddiffyn Awstralia ar draws y lle i gyd.

Ond daeth Awstralia nôl i mewn i’r gêm a deg munud cyn yr egwyl Tim Cahill gododd uchaf yn y cwrt cosbi i benio’r bêl i’r rhwyd am gôl iddynt hwythau.

Ac roedden nhw’n gwella wrth i’r gêm fynd yn ei blaen, gyda Cahill a Mark Bresciano’n cael cyfleoedd i unioni’r sgôr.

Ond yn y munud olaf fe sicrhaodd Jean Beausejour y fuddugoliaeth i Chile o 3-1, a chadarnhau mai nhw fydd yn ymuno â’r Iseldiroedd ar frig Grŵp B am nawr.

Gemau heddiw

Colombia v Groeg (5yh)

Uruguay v Costa Rica (8yh)

Lloegr v Yr Eidal (11yh)

Traeth Ifori v Siapan (2yb)

Pigion eraill

Dyw’r Alban ddim yng Nghwpan y Byd eleni – ond roedd o leiaf un criw o gefnogwyr yn meddwl amdanynt wrth iddyn nhw gefnogi eu tîm ym Mrasil.

Gwelwyd y faner hon ymysg cefnogwyr y Croatiaid nos Wener, yn mynegi cefnogaeth dros annibyniaeth i’r Alban a phleidlais Ie ym mis Medi. Ar ôl wythnos ble bu Americaniaid pwerus yn rhoi eu cefnogaeth i’r Undeb, ymddengys bod cefnogaeth ryngwladol i’r ochr arall hefyd!

Heno fe fydd y Saeson yn wynebu’r Eidal yn eu gêm agoriadol, ac roedd llawer wedi bod yn poeni y byddai’r gwres llesol yn ninas Manaus yn yr Amazon yn effeithio ar y chwaraewyr.

Mae’n ymddangos fod y tymheredd bellach yn well nag yr oedd pobl wedi’i ofni – ond nawr mae gan Loegr rywbeth arall i boeni am ar ôl i bryderon godi ynglŷn â chyflwr sych a chaled y cae.

Y newyddion diweddaraf yw bod y cae nawr wedi cael ei ‘baentio’ yn wyrdd er mwyn gwella’i edrychiad – mae Dafydd Iwan wedi bod yn brysur, mae’n amlwg!