Ni allai fod wedi bod yn agosach heno yn Stadiwm Swalec wrth i Forgannwg a Spitfires Swydd Gaint orffen yn gyfartal yn yr ornest T20 Blast ar noson heulog o haf.
Tarodd Jim Allenby 54 oddi ar 44 o belenni wrth i Forgannwg gyrraedd 177-7., ond rhaid canmol perfformiad cyffredinol yn y maes hefyd.
Doedd 71 gan Darren Stevens (a gipiodd 3-22 wrth fowlio hefyd) ddim yn ddigon i’r ymwelwyr gipio’r fuddugoliaeth, diolch yn bennaf i fowlio manwl gywir gan Darren Sammy (2-29) a Michael Hogan (2-30).
Y cyfnod clatsio
Dechrau addawol gafodd Spitfires Swydd Gaint i’r ornest, wrth i Jacques Rudolph (1) daro’r bêl i lawr corn gwddf Doug Bollinger yn y belawd gyntaf oddi ar Darren Stevens o ben Heol y Gadeirlan.
Mark Wallace oedd y nesaf i’r llain ac fe darodd belen ola’r belawd am bedwar, y tîm cartref yn 6-1.
Ac eithrio pelen wag gan Mitchell Claydon yn yr ail belawd, fe gadwodd yr ymwelwyr bethau’n dynn yn yr ail belawd, pedwar o rediadau wedi’u hychwanegu at y cyfanswm.
Y daliwr ei hun, Doug Bollinger fowliodd y drydedd belawd wrth i’r Spitfires geisio amrywio’r bowlio ac fe oroesodd Wallace waedd am goes o flaen y wiced cyn tynnu’r Awstraliad am bedwar grymus wrth i Forgannwg symud ymlaen i 17-1 ar ddiwedd y drydedd.
Fawr o groeso gafodd Claydon yn y bedwaredd wrth i Allenby daro tair ergyd i’r ffin – dwy yn syth a’r llall drwy’r cyfar – Morgannwg yn gwibio i 32-1 erbyn diwedd y belawd.
Tarodd Allenby belen araf gan Bollinger yn sgwâr am bedwar oddi ar belen gynta’r bumed cyn i Wallace rofio’r bêl i gyfeiriad y trydydd dyn – dim ond maesu campus gan David Griffiths wnaeth ei rwystro.
Ond cafodd Wallace y gorau o Bollinger cyn diwedd y belawd, gan wthio’r bêl yn sgwâr oddi ar ei goesau am bedwar i ymestyn y cyfanswm i 44-1.
Parhau wnaeth y clatsio yn y chweched hefyd, wrth i Wallace daro Griffiths oddi ar ei goesau am bedwar ac yna’n syth i gyfeiriad yr afon am chwech.
Cafodd Wallace ei ollwng gan y capten Rob Key yn dilyn pelen wag cyn ymestyn y cyfanswm i 60-1 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
A chlatsio’n wir oedd ymateb y Spitfires ar ddechrau eu batiad nhw, pelen gyntaf Jim Allenby o gyfeiriad afon Taf yn cael ei tharo am bedwar gan Daniel Bell-Drummond wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 8-0 ar ddiwedd eu pelawd gyntaf.
Yr Awstraliad Michael Hogan fowliodd yr ail belawd ac fe gafodd pelen lac gychwynnol ei hatal yn gampus gan Ben Wright yn y cyfar, gan arbed pedwar sicr i Bell-Drummond.
Ond llwyddo wnaeth yr agorwr arall Rob Key yn nes ymlaen yn y belawd, gan daro’r bêl yn uchel ac yn syth uwchben Allenby i ffin ochr y goes, cyn ailadrodd yr un ergyd i ymestyn cyfanswm yr ymwelwyr i 20-0 ar ddiwedd yr ail belawd.
Pedwar arall a ddilynodd i Bell-Drummond oddi ar belen gyntaf Graham Wagg o ben afon Taf cyn i Key ergydio’n syth heibio’r bowliwr cyflym llaw chwith am bedwar arall wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 34-0 oddi ar dair pelawd.
Darren Sammy fowliodd y bedwaredd ac fe ddaeth llwyddiant ar unwaith, wrth i Bell-Drummond daro’r bêl yn syth i’r awyr i ddwylo diogel Wagg yn y cylch ar yr ochr agored – y Spitfires yn 34-1.
Cyn ychwanegu at y cyfanswm, diflannodd Key i’r cwtsh, wedi’i ddal ar ochr y goes gan Andrew Salter – dwy wiced yn y belawd i Sammy, gan ildio un rhediad yn unig – y Spitfires yn 35-2 oddi ar bedair pelawd.
Gyda dau fatiwr cymharol newydd wrth y llain – Sam Northeast ac Adam Blake – Hogan fowliodd y bumed a chael ei daro’n sgwâr gan y batiwr llaw chwith Blake am bedwar wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 41-1 oddi ar bum pelawd.
Cael ei glatsio wnaeth Sammy yn y chweched pelawd, Blake yn ei dynnu i’r pafiliwn am chwech cyn i Northeast gael ei redeg allan gan dafliad chwim gan Dean Cosker – yr ymwelwyr bellach yn 48-2 ar ddiwedd y cyfnod clatsio, ddeuddeg rhediad y tu ôl i Forgannwg.
Y pelawdau canol
Wrth i’r ymwelwyr droi at droellwr Lloegr, James Tredwell yn y seithfed, cafodd groeso cynnes gan Allenby, y capten yn taro pelen syth i grombil yr eisteddle fawr ar ochr y goes.
Cafodd Wallace ei ollwng gan Sam Northeast ar y ffin canol-wiced cyn taro sgubiad wrthol am bedwar i gyfeiriad yr eisteddle fawr, Morgannwg yn 74-1 ar ddiwedd y belawd.
Newid tactegau unwaith eto oedd hanes y Spitfires yn yr wythfed, gan droi y tro hwn at y bowliwr cyflym llaw chwith Adam Ball, a hwnnw’n temtio Wallace i dynnu’r bêl i gyfeiriad Alex Blake o flaen yr eisteddle fawr – 79-2 ar ddiwedd y belawd.
Stevens ddychwelodd i fowlio’r nawfed o ben Heol y Gadeirlan a chael ei yrru’n sgwâr am bedwar gan Allenby cyn i Murray Goodwin ddarganfod Daniel Bell-Drummond o flaen yr eisteddle, y maeswr yn plymio’n isel i ddal ei afael ar y bêl – Morgannwg yn 86-3 wrth i Chris Cooke ddod i’r llain.
Doedd hi ddim yn hir cyn i Cooke ymuno yn yr hwyl, gan dorri’r bêl heibio i’r wicedwr Sam Billings a thrwy ddwylo llipa Tredwell ar ffin y trydydd dyn – Morgannwg yn 94-3 ar ddiwedd 10 pelawd.
Cyrhaeddodd Allenby ei hanner canred yn y belawd nesaf oddi ar Stevens – yr Awstraliad yn cymryd 32 o belenni, gan daro chwech ergyd i’r ffin ac un dros y ffin.
Bu bron i Cooke golli ei wiced yn fuan wedyn, Stevens yn gollwng y bêl oddi ar ergyd gadarn yn syth nôl ato – ac fe gyrhaeddodd Morgannwg y 100 ar ei ben ar ddiwedd y belawd.
Bowlio llac a gafwyd gan Ball yn y belawd nesaf, y bowliwr llaw chwith yn ildio pedwar o rediadau llydan mewn pelawd a gostiodd 11 o rediadau i’r ymwelwyr, gyda Morgannwg wedi cyrraedd ‘Nelson’ – 111-3.
Ball gafodd y gair olaf ar Allenby, wrth i’r batiwr daro’n syth i’r awyr a chwythu’i blwc am 54 oddi ar Stevens – y cyfanswm yn 114-4 ar ddiwedd tair ar ddeg o belawdau, gyda Ben Wright yn cadw cwmni i Cooke.
Ball fowliodd y belawd nesaf o ben afon Taf a chael ei daro am bedwar syth gan Cooke mewn pelawd a ildiodd naw o rediadau – Morgannwg yn 123-4 wedi 14 pelawd.
Claydon ddychwelydd o ben Heol y Gadeirlan am y bymthegfed, a chael ei rofio am chwech mentrus gan Wright wrth i Forgannwg gyrraedd 133-4 wrth ddechrau ar y pelawdau clo.
Troi at y troellwr ifanc Andrew Salter wnaeth Morgannwg ar ddechrau’u seithfed pelawd nhw, ac fe gafodd hwnnw ei daro gan Blake am bedwar trwy ochr y goes cyn i’r batiwr oroesi gwaedd am goes y flaen y wiced i ymestyn cyfanswm yr ymwelwyr i 54-3.
Allenby ddychwelodd i fowlio’r wythfed o ben Heol y Gadeirlan ac fe gyfyngodd ar y cyfanswm, gan ildio pum rhediad yn unig, y Spitfires yn 59-3 ar ddiwedd yr wythfed pelawd.
Daeth cyfle i Salter ddal Darren Stevens oddi ar ei fowlio’i hun yn y nawfed, wrth i’r troellwr ifanc barhau i roi’r Spitfires dan bwysau – y cyfanswm yn 65-3.
Dechrau partneriaeth y troellwyr oedd y degfed pelawd, wrth i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker gael ei gyflwyno o ben Heol y Gadeirlan a chael ei daro am chwech gan Stevens i ganol yr eisteddle fawr.
Ond talodd Cosker y pwyth yn ôl i Blake, hwnnw’n cael ei fowlio am 22 – y Spitfires yn 76-4 ac yn 24 o rediadau y tu ôl i Forgannwg wedi hanner eu pelawdau.
Sammy ddychwelodd o ben afon Taf wrth i Sam Billings ddod i’r llain, ac fe gafodd y dyn o India’r Gorllewin ei daro am chwech anferth gan Stevens i gyfeiriad y pafiliwn – y Spitfires yn 85-4 ar ddiwedd yr unfed belawd ar ddeg.
Diflanodd pelen gynta’r drydedd pelawd ar ddeg gan Cosker am chwech gan Stevens ac fe fu bron iddo gael ei redeg allan ar ddiwedd y belawd – yr ymwelwyr yn 97-4 oddi ar ddeuddeg o belawdau.
Wagg fowliodd y belawd nesaf o ben afon Taf yn lle Sammy ac roedd ei lein amrywiol yn peri penbleth i’r batwyr mewn pelawd a ildiodd dri rhediad yn unig, yr ymwelwyr yn cyrraedd 100 ar ei ben ond yn cymryd tair pelawd yn fwy na Morgannwg i gyrraedd y garreg filltir.
Ond cyflymodd y sgorio oddi ar Cosker yn y bedwaredd pelawd ar ddeg, y ddwy belen gyntaf yn mynd am chwech i gyfeiriad yr eisteddle fawr a phedwar i gyfeiriad y pafiliwn, a Stevens yn taro’r ddwy ergyd.
Cyrhaeddodd Stevens ei hanner cant oddi ar 29 o belenni – un ergyd am bedwar a phum ergyd yn mynd am chwech wrth i’r Spitfires gyrraedd 119-4 erbyn diwedd y belawd.
Hogan gafodd y cyfrifoldeb o fowlio’r bymthegfed o ben afon Taf ac fe laniodd ei bedwaredd belen ychydig o flaen Rudolph cyn i Stevens rofio’r belen nesaf am bedwar i gyfeiriad y goes fain bell – yr ymwelwyr yn 129-4, bedwar rhediad y tu ôl i Forgannwg wedi pymtheg pelawd.
Y pelawdau clo
Dychwelyd i’r troellwr Tredwell wnaeth y Spitfires yn y pelawdau clo, ac fe ddaeth llwyddiant ar unwaith – Griffiths yn dal Wright ar ymyl y cylch – Morgannwg yn 133-5 wrth i’r cawr Darren Sammy gamu i’r llain.
Tri rhediad gafodd eu hychwanegu erbyn diwedd yr unfed belawd ar bymtheg – Morgannwg bellach yn 136-5.
Ildiodd Claydon ddwy ergyd i’r ffin yn yr ail belawd ar bymtheg, y ddwy y tu cefn i’r wiced ar ochr y goes gan Cooke, wrth i Forgannwg gyrraedd 147-5.
Pelen ddrud oedd pelen gynta’r belawd nesa gan Tredwell, gyda Darren Sammy yn manteisio ar belen wag a’i tharo’n syth ar ochr y goes am chwech.
Ond tarodd Tredwell yn ôl wrth i Cooke gam-ergydio’n sgwâr i ddwylo Griffiths – y cyfanswm yn 158-6 wrth i Graham Wagg gamu i’r canol.
161-6 oedd cyfanswm Morgannwg ar ddiwedd y ddeunawfed wrth i Doug Bollinger ddychwelyd i’r ymosod a bowlio Wagg am 3, y Cymry bellach yn 163-7 a’r gobaith o osod nod anghyfforddus i’r Spitfires yn dechrau pylu.
Tarodd Andrew Salter bedwar oddi ar Griffiths yn y bedwaredd belawd ar bymtheg, cyn goroesi ymgais gan y bowliwr i’w redeg allan wrth fentro am rediad amheus.
Tarodd Sammy bedwar drwy’r cyfar oddi ar belen ola’r batiad i ymestyn cyfanswm Morgannwg i 177-7.
Gyda nod o 49 i ennill oddi ar bum pelawd ola’r batiad, Sammy ddychwelodd i fowlio o ben Heol y Gadeirlan a chael ei daro am chwech eto fyth gan Stevens.
Goroesodd Stevens a’i bartner Billings ddwy ymgais i’w rhedeg allan, y dyfarnwr yn penderfynu ar y ddau achlysur fod y batwyr wedi cyrraedd y llain yn ddiogel.
Ildiodd Sammy bedwar rhediad i Billings cyn diwedd y belawd wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 141-4 – 37 rhediad yn brin o’r nod gyda phedair pelawd yn weddill.
Wagg fowliodd yr ail belawd ar bymtheg o ben afon Taf ac ildio saith rhediad yn unig wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 149-4 gyda thair pelawd yn weddill – y nod yn lleihau i 29 oddi ar dair pelawd ond y cyfradd oedd yn ofynnol yn cynyddu.
Parhau wnaeth noson siomedig y Spitfires ddechrau’r ddeunawfed, wrth i Stevens (71) gael ei ddal o flaen yr eisteddle fawr gan Chris Cooke oddi ar Salter, a chyfanswm yr ymwelwyr bellach yn 149-5.
Ond cynigiodd Billings lygedyn o obaith cyn diwedd y belawd, wrth daro’r troellwr ifanc am chwech a phedwar oddi ar ddwy belen o’r bron cyn goroesi gwaedd am goes o flaen y wiced – y cyfanswm yn 165-5 ar ddiwedd y belawd.
Gyda nod o 13 o rediadau i’r Spitfires ennill oddi ar y ddwy belawd olaf, dychwelodd Wagg o ben afon Taf ac fe wnaeth Billings (33) ganfod dwylo Allenby yn y cyfar, yr ymwelwyr bellach yn 167-6.
Ond tarodd Ball chwech i gyfeiriad y pafiliwn cyn diwedd y belawd i roi’r ymwelwyr o fewn un ergyd i’r fuddugoliaeth.
Yn nwylo Hogan roedd tynged Morgannwg yn y belawd olaf, y Spitfires yn cwrso tri rhediad yn unig i ennill oddi ar y chwe phelen olaf.
Gyda’r dorf ar bigau’r drain, wnaeth Hogan ddim siomi wrth ganfod coes Ball o flaen y wiced oddi ar yr ail belen, y cyfanswm yn 175-7.
Dwy wiced oddi ar ddwy belen oedd hi i Hogan wrth iddo wasgaru ffyn Mitchell Claydon – y Spitfires yn 175-8.
Doug Bollinger wynebodd y belen dri-thro ond rhuthrodd yr Awstraliad am sengl cyflym i roi’r belen nesaf i Tredwell.
Sengl arall ddilynodd, gyda Bollinger yn wynebu’r nod o un rhediad oddi ar y belen olaf am fuddugoliaeth, a’r ewinedd yn seddi’r Swalec yn diflanu’n gyflym.
Ond doedd dim modd gwahanu’r ddwy sir ar ddiwedd yr ornest, wrth i Bollinger gael ei redeg allan gan Jacques Rudolph oddi ar y belen olaf – Morgannwg a Swydd Gaint, felly, yn rhannu’r pwyntiau.