Bydd yr asgellwr George North yn chwarae i Gymru yn y prawf cyntaf yn erbyn De Affrica yfory.

Roedd amheuaeth a fyddai’r chwaraewr 22 mlwydd oed yn holliach ar gyfer y gêm wedi iddo gael ei daro’n wael gan feirws.

Hyd heddiw nid oedd wedi medru ymarfer gyda’r garfan.

Dywedodd Rob Howley, hyfforddwr cynorthwyol Cymru: “Rwy’n hapus i ddweud ei fod yn ysu i fynd, hyd yn oed ar ôl wythnos anodd a gwahanol.

“Bydd De Affrica yn cofio ei ymddangosiad cyntaf yn eu herbyn yn 2010 pan sgoriodd ddau gais.”

Er hynny, nid yw’n debygol y bydd North yn gallu parhau ar y cae am gêm gyfan, yn ôl Howley.

“Byddwn yn cymryd y penderfyniad gan y chwaraewr ac yr wyf yn siwr y bydd George yn cyfathrebu gyda ni o ran sut y mae’n teimlo ar ôl 50-60 munud.”

Bydd Cymru yn herio De Affrica yfory yn Kings Park yn Durban.