Wilfred Bony
Mae asiant ymosodwr Abertawe Wilfried Bony wedi mynnu nad oes gan Newcastle obaith o’i arwyddo bellach, gan ddweud mai dim ond “chwech uchaf” Uwch Gynghrair Lloegr sydd yn ddigon da iddo.
Cafodd Bony dymor gwych i’r Elyrch ar ôl arwyddo am £12m yr haf diwethaf, ac mae wedi denu sylw nifer o glybiau mawr oherwydd hynny.
Bydd yn chwarae i Draeth Ifori yng Nghwpan y Byd dros y mis nesaf, ac fe fyddai perfformiadau da’n debygol o gynyddu ei werth hyd yn oed yn fwy.
£20m
Mae’n annhebygol y byddai Abertawe’n derbyn unrhyw gynnig llai na £20m amdano bellach, ac yn ôl asiant Bony, Dalibor Lacina, mae clybiau megis Newcastle eisoes wedi methu eu cyfle i’w arwyddo.
“Gallen nhw fod wedi ei arwyddo am £10m,” meddai Lacina wrth y Shields Gazette. “Ond fe ddywedon nhw nad oedden nhw’n siŵr os oedd o’n ddigon da, ei fod ddim ond yn chwarae yn yr Iseldiroedd.
“Dim ond [cadeirydd Abertawe] Huw Jenkins gymrodd y risg. Nawr mae o werth £20m.”
Y cam nesaf…
Ond nid yw hynny’n golygu y bydd Bony, a sgoriodd 25 gôl y tymor diwethaf, o reidrwydd yn aros yn Stadiwm y Liberty yr haf hwn.
“Y cam nesaf i Bony yw un o’r chwech uchaf yn Lloegr neu dîm mawr yn yr Almaen, Sbaen neu Ffrainc, neu fe fydd yn aros yn Abertawe,” ychwanegodd Lacina.
“Mae Bony mewn lle hollol wahanol i Newcastle ac eisiau symud i glwb gydag uchelgais.”
Mae sôn wedi bod eisoes bod gan Arsenal, Tottenham ac Everton ddiddordeb yn yr ymosodwr.
Yn y cyfamser mae Abertawe hefyd wedi gwneud cynigion am yr ymosodwyr Michy Batshuayi a Luc Castaignos, er nad yw’n glir eto a fyddwn nhw’n chwarae gyda neu yn lle Bony.