Fe fydd costau annibyniaeth i’r Alban yn cael eu trafod gan lywodraethau’r Alban a Phrydain heddiw.
Bydd y ddwy ochr yn cyflwyno’u dadleuon yn ystod y dydd.
Mae disgwyl i Lywodraeth Yr Alban amlinellu cynlluniau i arbed biliynau o bunnoedd mewn asedau pe na bai modd rhannu cyfarpar amddiffyn a llysgenadaethau.
Bydd Trysorlys y DU yn galw ar Lywodraeth Yr Alban i amlinellu costau annibyniaeth ar y cyfan.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Yr Alban y bydd gan y wlad “fynediad i’n cyfoeth ein hunain a chyfran allweddol mewn £1.3 triliwn o asedau sydd wedi cael eu hadeiladu gan y DU sydd wedi cael eu hariannu gan drethdalwyr Yr Alban”.
Ychwanegodd fod gan bobol Yr Alban “hawl i siâr deg” o’r arian, a beirniadodd Lywodraeth Prydain am beidio sôn am yr arian y mae Albanwyr wedi’i gyfrannu i economi Prydain.
“Fe fyddai Alban annibynnol yn dechrau bywyd gyda chyllideb iach ac economi gref a fydd yn cael ei chryfhau gan roi’r offer y mae ei angen arnom i greu cyfoeth yn nwylo pobol Yr Alban.”
Ond mae’r Trysorlys yn bwriadu dangos faint o arian a fyddai’n cael ei arbed erbyn 2035-36 pe bai’r Alban yn gwrthod annibyniaeth.
Cyhuddodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander Lywodraeth Yr Alban o wrthod dweud “beth yn union yw’r costau dros ben o gael annibyniaeth i’r Alban”.