Banc Lloegr
Fe wnaeth chwyddiant ym Mhrydain godi am y tro cyntaf ers 10 mis ym mis Ebrill, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cododd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur cyfradd chwyddiant, i 1.8% – ar ôl cyrraedd y ffigwr isaf ers pedair blynedd ym mis Mawrth, sef 1.6%.

Prisiau petrol a phrisiau teithio, o ganlyniad i ddyddiadau’r Pasg eleni, sydd wedi cyfrannu fwyaf at y cynnydd mewn chwyddiant, yn ôl y ffigyrau.

Roedd adferiad mewn gwerthiant dillad merched hefyd wedi effeithio ar y cynnydd.

Er y cynnydd, mae’r ffigyrau yn dal i fod yn is na tharged Banc Lloegr o 2%.

Mae’r cynnydd mewn cyflogau wedi aros yn 1.7%.

Dywedodd yr economegydd Samuel Tombs: “Rydym yn parhau i feddwl y bydd chwyddiant mor isel â 1% erbyn diwedd y flwyddyn yma ac y bydd yn aros yn gyffyrddus o dan y tagged o 2% erbyn 2015.”

Fe arhosodd Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) yn 2.5%.