David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi galw ar gwmni fferyllol Pfizer yn yr Unol Daleithiau i ategu eu hymrwymiad i Brydain.
Daw ei sylwadau yn dilyn pryderon am gais gan y cwmni i brynu AstraZeneca.
Dywedodd Cameron fod Prydain yn “elwa’n fawr” o fuddsoddiad o dramor.
Ychwanegodd nad yw eto wedi’i argyhoeddi bod y cais i brynu’r cwmni er lles cenedlaethol.
Wrth ateb cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd fod arwyddion “addawol” hyd yn hyn, gan gynnwys awgrym y gallai 20% o ymchwil a gwaith datblygu’r gweithlu ddigwydd yn y DU.
Dywedodd: “Gadewch i fi fod yn eglur. Dydw i ddim yn fodlon, rwy am gael mwy.
“Ond y ffordd o gael mwy yw ymgysylltu, nid sefyll i fyny a chwarae gwleidyddiaeth bleidiol.”
Cytundeb gwerth £60 biliwn
Er gwaetha gwrthod nifer o geisiadau gan Pfizer i brynu’r cwmni, mae AstraZeneca yn parhau’n ffyddiog y bydd modd iddyn nhw ddod i gytundeb gwerth mwy na £60 biliwn yn y pen draw, a fyddai’n golygu’r cais mwyaf erioed o dramor i brynu cwmni Prydeinig.
Bu pryderon ers cryn amser y gallai unrhyw gytundeb i werthu’r cwmni olygu bod miloedd o swyddi’n cael eu colli yn y DU.
Mae’r Blaid Lafur yn gobeithio sicrhau bod unrhyw gais o dramor i brynu’r cwmni’n unol â phrawf buddiannau’r cyhoedd.
Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Prydain yr hawl i ymyrryd mewn cytundebau busnes ar sail diogelwch cenedlaethol, plwraliaeth y cyfryngau neu sefydlogrwydd ariannol.
Ond mae’r Blaid Lafur yn galw am ymestyn yr amodau i gynnwys posibiliadau ymchwil a datblygu.
Mae disgwyl i benaethiaid Pfizer ac AstraZeneca, ynghyd â’r Gweinidog Gwyddoniaeth David Willetts, ymddangos gerbron pwyllgorau Tŷ’r Cyffredin yn ystod yr wythnosau i ddod.