Nigel Farage
Mae Nigel Farage wedi amddiffyn ymgyrch boster newydd UKIP ar ôl beirniadaeth bod y posteri yn hiliol.

Mae’r posteri yn dweud bod “Gweithwyr Prydain yn cael eu taro’n galed gan nifer dibendraw o weithwyr tramor” ac yn defnyddio’r slogan “Cymerwch reolaeth o’n gwlad yn ôl.”

Mae’r Aelod Seneddol Llafur Mike Grapes yn dweud bod y posteri yn hiliol ac mae eraill wedi dweud eu bod yn atgoffa rhywun o bosteri’r BNP yn y gorffennol.

Dywedodd Nigel Farage bod y posteri yn “adlewyrchiad caled o’r realaeth mae pobl Prydain yn ei brofi wrth geisio ennill bywoliaeth y tu allan i’r bybl yn San Steffan.”

Ychwanegodd ei fod yn tu hwnt o ddiolchgar i’r miliwnydd o gyn-Dori Paul Sykes sydd wedi cyfrannu £1.5 miliwn i dalu am ymgyrch y blaid cyn etholiadau Ewrop.