Mae Tesco wedi cyhoeddi gostyngiad yn ei elw blynyddol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae ffigurau gwerthiant y cwmni yn y DU hefyd yn gwaethygu gan roi pwysau ar y prif weithredwr Philip Clarke.

Roedd elw cyn treth y cwmni archfarchnad wedi gostwng 6.9% i £3.05 biliwn am y flwyddyn hyd at 22 Chwefror a gwerthiant wedi gostwng 3% yn y pedwerydd chwarter, meddai’r grŵp.

Mae Tesco wedi cyfaddef bod perfformiad y cwmni wedi bod yn waeth na’r disgwyl yn ystod amgylchiadau heriol.

Roedd elw masnachol y grŵp wedi gostwng 6% i £3.3 biliwn.

Dywedodd Philip Clarke bod y canlyniadau “yn adlewyrchu’r cyfnod heriol sy’n newid yn gynt nag erioed o’r blaen. Rydym yn benderfynol o arwain y diwydiant yn ystod y cyfnod yma o newid.”