David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud heddiw ei fod yn caru’r Deyrnas Unedig ac nid yw am ei weld yn chwalu.

Mewn araith yng Nghynhadledd Gwanwyn y Blaid Geidwadol yn Llundain dywedodd Prif Weinidog Llywodraeth Prydain mai’r frwydr fawr nesaf oedd cadw’r Deyrnas Unedig yn unedig.

Mae’r rhai sy’n cefnogi’r ymgyrch Pleidleisiwch Na yn y refferendwm ar 18 Medi yn gwneud hynny oherwydd eu bod nhw’n caru’r Deyrnas Unedig, meddai David Cameron.

Beirniadodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, am ei fod, yn ei farn ef, yn ddyn heb unrhyw gynllun – ‘a man without a plan’.