Mae Network Rail, sy’n gyfrifol am gynnal rheilffyrdd Prydain, yn wynebu dirwy o £70 miliwn am fethu â sicrhau bod digon o drenau gyrraedd mewn pryd.

Y targed i Network Rail yw bod 92.5% o drenau’n cyrraedd mewn pryd, ond fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddweud wrth Swyddfa’r Rheoleiddiwr Rheilffyrdd yfory mai 89.9% yw sgôr eu llwyddiant. Mae’r Rheoleiddiwr yn dirwyo am bob 0.1% y mae’n methu’r targed.

Meddai llefarydd ar ran Network Rail:

“Er ein bod ni wedi llwyddo i wneud ein seilwaith yn fwy dibynadwy, nid yw hyn wedi bod yn ddigon i wrthbwyso’r anawsterau sy’n cael eu hachosi gan dagfeydd a tywydd eithafol.”

Cafodd Network Rail eu beirniadu gan y Rheoleiddiwr ym mis Tachwedd am beidio â gwario digon ar waith cynnal a chadw, gohirio gwaith adnewyddu a gadael i waith peirianyddol redeg yn hwyr.

Yn ôl y Rheoleiddiwr, problemau y gellid eu priodoli i Network Rail oedd yn gyfrifol am fwy na hanner y trenau a oedd yn hwyr ar reilffyrdd Prydain.