Y Canghellor George Osborne
Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne roi cymorth i weithwyr ar gyflogau isel pan fydd e’n cyhoeddi ei Gyllideb yn ddiweddarach heddiw.
Fel rhan o’r Gyllideb, mae disgwyl i’r lwfans personol godi uwchben y £10,000 presennol, ac fe fydd rhagor o fesurau i ariannu gofal plant yn cael eu cyhoeddi er mwyn helpu rhieni ar gyflogau isel a chanolig.
Mesurau posib
Mae disgwyl i George Osborne gyhoeddi fod y lefel er mwyn dechrau cyfrannu at Yswiriant Gwladol yn codi, ac fe allai’r trothwy ar gyfer talu treth incwm godi hefyd.
Bu rhai’n galw ar Osborne yn ddiweddar i ymestyn y lwfans Yswiriant Gwladol (£2,000 ar hyn o bryd) ar gyfer cwmnïau sy’n cyflogi rhagor o staff.
Fe allai lefel Yswiriant Gwladol godi er mwyn cyfateb i’r lwfans dreth bersonol.
Daw hyn yn dilyn galwadau gan y gwrthbleidiau am i’r lefel gael ei chodi.
Ar hyn o bryd, mae miliynau o bobol yn talu’r 40% ar lefel sy’n is na chwyddiant.
Ymhlith y mesurau eraill a fydd yn cael eu cyhoeddi, mae disgwyl i lefel treth ar danwydd aros yr un fath, ac mae pwysau ar Osborne i gadw’r dreth ar win a gwirodydd yn gyson hefyd.
Yn ôl adroddiadau, fe fydd y dreth ar neuaddau bingo’n gostwng o 20% i 15% mewn ymgais i ddenu rhagor o chwaraewyr.
‘Pobol ar eu colled’
Ond mae’r Blaid Lafur yn rhybuddio bod pobol yn colli £1,600 yn fwy o dan y Ceidwadwyr nag y bydden nhw o dan Lafur.
Dywedodd cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Ariannol, Paul Johnson wrth BBC Radio 4 na fydd yr economi’n gwella tan 2018.
Wrth gyfeirio at George Osborne, fe ddywedodd Johnson: “Mae tipyn o ffordd i fynd eto.
“Os yw’r Canghellor yn gwneud unrhyw doriadau i drethi, ac fe allai wneud hynny, mae e’n mynd i’w gymryd yn ôl ar y llaw arall, gwneud cynnydd trethi mewn mannau eraill neu ragor o doriadau gwariant eto fyth.”
‘Tegwch economaidd’
Ddoe, galwodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth am Fil Tegwch Economaidd er mwyn creu cydbwysedd daearyddol a sectorol yn yr economi.
Wrth alw am y Bil, dywedodd fod perygl fod twf yn ne-ddwyrain Lloegr yn “cuddio’r cyfnod maith o galedi estynedig sy’n cael ei deimlo mewn mannau eraill”.
“Unwaith eto, mae’r ffigyrau diweddar yn amlygu’r anghydbwysedd rhwng economïau ledled Prydain, a gwyddom fod llawer o’r twf presennol i’w briodoli i swigen prisiau tai yn Llundain, a chynnydd enfawr mewn dyledion personol,” meddai Rhun ap Iorwerth AC.