William Hague
“Camddealltwriaeth difrifol” arweiniodd at garchariad tîm diplomyddol Prydeinig yn Libya, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague.

Daw ei sylwadau yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl i William Hague gyfaddef ei fod wedi awdurdodi taith yr wyth i Libya.

“Fe gafodd y tîm ei dynnu’n ôl ddoe ar ôl camddealltwriaeth difrifol ynglŷn â’u rôl, a arweiniodd at eu carcharu dros dro,” meddai.

Dywedodd fod anfon diplomyddion i Libya yn hanfodol er mwyn “deall yn well y sefyllfa wleidyddol, filwrol, a dyngarol ar lawr gwlad”.

“Yr wythnos diwethaf fe awdurdodais anfon tîm bach diplomyddol o Brydain i ddwyrain Libya,” meddai.

Dywedodd fod yr amgylchiadau “yn ansicr” ac felly fod “angen amddiffyniad” arnyn nhw.

Ychwanegodd fod beth bynnag arweiniodd at eu carcharu “wedi ei ddatrys” ond ei fod “yn amlwg yn well tynnu’r tîm yn ôl”.

Roedd milwyr oedd yn brwydro o blaid y Cyrnol Muammar Gaddafi wedi ymosod ar y gwrthryfelwyr, ac roedd “adroddiadau credadwy eu bod nhw wedi ymosod ar ddinasyddion gan ddefnyddio hofrenyddion,” meddai.

Dywedodd ysgrifennydd tramor yr wrthblaid, Douglas Alexander, mai dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gamgymeriadau gan y Swyddfa Dramor.