Jimmy Savile
Roedd nifer o’r rhai gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan Jimmy Savile wedi cael eu hanwybyddu pan wnaethon nhw ddatgelu beth oedd wedi digwydd, yn ôl adroddiad.

Roedd eraill wedi cadw’n dawel am nad oedden nhw’n meddwl y byddai pobl yn eu credu nhw, gan fod  y cyflwynydd teledu yn gymeriad mor ddylanwadol.

Dywedodd eraill fod pobl wedi chwerthin arnyn nhw pan wnaethon nhw son fod Savile wedi eu cam-drin, yn ôl adroddiad yr NSPCC sy’n egluro pam fod cymaint o bobl wedi aros cyhyd cyn mynd at yr heddlu.

Yn ôl yr elusen mae nifer sylweddol o ferched a dynion a gafodd eu holi yn dal heb ddweud wrth ffrindiau a theulu eu bod nhw wedi eu cam-drin.

Bu farw Savile yn 84 oed ym mis Hydref 2011 – flwyddyn cyn i honiadau ei fod wedi cam-drin plant gael eu datgelu mewn rhaglen ddogfen ar ITV.

Fe arweiniodd at gannoedd o bobl yn mynd at yr heddlu i ddweud eu bod wedi cael eu cam-drin yn safleoedd y BBC, ac mewn sefydliadau eraill gan gynnwys ysbytai.

Yn ôl yr adroddiad, roedd rhai o’r dioddefwyr, oedd rhwng wyth a 26 oed pan gawson nhw eu cam-drin gan Savile, wedi dweud wrth staff yr ysbytai ond eu bod nhw wedi anwybyddu eu honiadau.

Roedd un o’r 26 o bobl gafodd eu holi gan ymgynghorwyr yr NSPCC wedi mynd at yr heddlu ond ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd. Roedd y rhan fwyaf yn blant pan gawson nhw eu cam-drin ond roedd pedwar yn oedolion.

Dywed yr NSPCC bod eu hymchwil, a gomisiynwyd gan  Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC),  yn dangos y dioddefaint maen nhw wedi ei ddioddef yn sgil y cam-drin, gyda nifer yn troi at alcohol a chyffuriau i ymdopi. Roedd eraill yn dioddef o salwch meddwl neu wedi ystyried lladd eu hunain, medd yr elusen.

Yn ol yr adroddiad roedd profiadau’r rhan fwyaf wedi bod yn “bositif” ers iddyn nhw fynd at yr heddlu ar ol i Scotland Yard sefydlu Operation Yewtree yn sgil yr helynt am Savile.

Ond maen nhw am weld newidiadau’n cael eu cyflwyno i’w gwneud yn haws i bobl adrodd am achosion o gam-drin rhywiol, meddai’r NSPCC.