(LLun: Mattbuck CCA 2.0)
Does gan y rhan fwya’ o deithwyr rheilffordd ddim gwybodaeth am eu hawliau i gael iawndal pan fydd trenau’n hwyr.

Yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd, doedd gan 75% o’r bobol a atebodd holiadur “ddim syniad” neu “fawr ddim syniad” am eu hawliau.

Roedd canran debyg yn dweud nad oedd y cwmnïau’n gwneud digon i roi gwybod iddyn nhw am eu hawliau chwaith.

Mae gan deithwyr yr hawl i gael hanner pris eu tocyn yn ôl os bydd trên hanner awr yn hwyr a’r pris cyfan ar ôl awr.

‘Chwarae teg’

“R’yn ni eisiau gweld bod teithwyr yn cael eu trin yn deg, yn derbyn gwasanaeth o’r safon y maen nhw’n talu amdano a, phan na fydd hynny’n digwydd, yn gallu galw eu darparwyr i gyfri,” meddai Anna Walker, Cadeirydd y Swyddfa.

“Mae ein hymchwil ni’n awgrymu nad yw rhoi gwybodaeth ar wefan, neu dim ond rhoi gwybodaeth pan fydd rhywun yn holi, ddim ynddigon i helpu cwsmeriaid i fod yn ymwybodol o’u hawliau a’u defnyddio.”