Mae elusen Shelter yn amcangyfrif fod bron i filiwn o bobol wedi cymryd benthyciadau diwrnod cyflog er mwyn talu costau rhent neu forgais yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ymchwil gan elusen y digartref yn dweud fod tua 885,000 o oedolion ym Mhrydain wedi benthyg arian am y tymor byr, am eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd talu costau byw.
Dywedodd yr elusen eu bod nhw wedi derbyn bron i 9,000 o alwadau ffôn gan bobol a oedd yn methu talu’r rhent y llynedd, sy’n 32% yn fwy na 2012.
Mae’r ffigyrau yn dod o ymchwil a fu’n holi 3,700 o bobol sy’n talu rhent neu forgais ym mis Tachwedd y llynedd.
Cyngor Shelter
Mae Shelter yn poeni fod nifer o bobol sy’n cael trafferthion ariannol yn dioddef, heb roi gwybod i unrhyw un.
Dywedodd 40% o’r rhai a gafodd eu holi ar gyfer yr ymchwil na fydden nhw’n dweud wrth ffrindiau na theulu eu bod nhw ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
“Rydym ni’n cynghori pobol i beidio â chadw eu trafferthion iddyn nhw eu hunain,” meddai prif weithredwr Shelter, Campbell Robb.
“Fe all trafod hefo rywun o Shelter wneud gwahaniaeth rhwng colli neu gadw eich tŷ.”