Mae’n ymddangos bod y Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar i o leiaf un o gwmnïau siopau’r stryd fawr.

Mae siopau John Lewis wedi gwerthu gwerth £164 miliwn o nwyddau dros yr wythnos ddiwethaf – cynnydd o 4.2% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, a 31.8% ar ddwy flynedd yn ôl. Mae eu gwerthiannau ar-lein wedi cynyddu 31% am yr ail flwyddyn yn olynol.

Dywed y cwmni fod pethau wedi prysuro’n arw dros yr wythnos ddiwethaf a’u bod yn disgwyl dau ddiwrnod prysur arall yfory a dydd Mawrth.

Gostwng prisiau

Nid yw’n glir fodd bynnag a yw siopau eraill wedi bod mor llwyddiannus, gyda siopau fel Marks and Spencer, Debenhamse, Gap, Argos a BHS wedi bod yn gostwng eu prisiau’n sylweddol er mwyn denu busnes.

Dywed arbenigwr ym maes manwerthu, Howard Archer, prif economegydd y DU ac Ewrop gyda’r cwmni IHS Global Insight, fod lle i amau pa mor dda  y bydd y Nadolig yma wedi bod i siopau’n gyffredinol.

“Mae cwsmeriaid John Lewis yn tueddu i fod yn bobl gyfoethocach nad yw’r wasgfa ar enillion yn effeithio gymaint arnyn nhw ag ar siopwyr eraill,” meddai.

“Mae’n amlwg fod llawer o siopau’n gostwng prisiau’n sylweddol – ac er y gall hyn hybu gwerthiant yn sylweddol, fe fydd hynny’n amlwg ar draul elw’r siopau.

“Ar hyn o bryd dyw hi ddim yn ymddangos y bydd yn Nadolig arbennig o lewyrchus i siopau, er ei bod hi’n debyg y bydd mwy o werthu ar-lein wedi arwain at gynnydd cyffredinol mewn gwariant.”