Ed Miliband - dim ond 21% sy'n credu y bydd yn Brif Weinidog
Dim ond un o bob pump – 21% – o’r etholwyr sy’n credu y bydd Ed Miliband yn Brif Weinidog ar ôl yr etholiad nesaf.
Yn ôl arolwg barn gan ComRes yn yr Independent on Sunday a’r Sunday Mirror, mae cwymp sylweddol o 10 pwynt canran wedi bod yn y nifer sy’n credu y bydd arweinydd y Blaid Lafur yn cyrraedd rhif 10 Stryd Downing.
Roedd bron cymaint ddwywaith – 40% – yn credu nad yw Ed Miliband yn debygol o fod yn Brif Weinidog.
Eto i gyd, mae’r un arolwg yn dangos bod Llafur yn glir ar y blaen a bod y bwlch rhyngddi a’r Ceidwadwyr wedi cynyddu un pwynt o gymharu â’r hyn oedd fis yn ôl. Y ffigurau llawn yw:
Llafur 36%
Ceidwadwyr 29%
Ukip 18%
Democratiaid Rhyddfrydol 8%.